Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynglŷn â’r Bil Ynni

Papur briffio cyfreithiol

 

 

 

Cyd-destun

1.       Paratowyd y papur briffio cyfreithiol hwn ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (CCD) sydd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd.  Mae’n arwyddocaol am ddau reswm.  Yn gyntaf, mae ymhlith y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol cyntaf i ddod gerbron y Cynulliad ers iddo ennill ei gymhwysedd llawer ehangach wedi’r refferendwm a gynhaliwyd yn gynharach eleni.  Yn ail, mae ymhlith y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol cyntaf y bydd y Rheol Sefydlog 29 newydd yn berthnasol iddynt.

2.       Daeth Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol yn rhan o fusnes y Cynulliad yn ystod y Trydydd Cynulliad ar ôl i’r Cynulliad ennill cymhwysedd deddfwriaethol cyfyngedig yng nghyswllt y materion sy’n ymddangos yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Roeddent yn dilyn y cynsail a sefydlwyd yn yr Alban yn 1999, lle cyfeiriwyd atynt yn gyffredinol fel cynigion Sewel.  Maent yn dynodi bod y Cynulliad yn cytuno y gellid creu deddfwriaeth yn San Steffan ar bynciau penodol er bod y cymhwysedd deddfwriaethol wedi ei ddatganoli.  Yn ystod y Trydydd Cynulliad cawsant eu cyflwyno’n amlach, a hynny’n raddol, wrth i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad gynyddu.  Ar ôl estyn y cymhwysedd hwnnw i gynnwys pob un o’r 20 o bynciau yn Atodlen 7 i Ddeddf 2006, mae’n debygol byddant yn rhan bwysig o waith y Pedwerydd Cynulliad gan y bydd angen cydsyniad y Cynulliad ar ystod llawer ehangach o bynciau os yw Senedd y DU i ddeddfu ar y pwnc hwnnw mewn perthynas â Chymru.

3.       Mae’r Rheol Sefydlog 29 newydd yn seiliedig ar Reol Sefydlog 26 y Trydydd Cynulliad, ond mae’n cynnwys un datblygiad arwyddocaol yn RhS 29.4 a RhS 29.5, sy’n caniatáu i’r Pwyllgor Busnes gyfeirio memorandwm cydsyniad deddfwriaethol at un pwyllgor neu ragor i’w ystyried ac adrodd arno (mae memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn esbonio cefndir y Bil a sail y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol).  Gan nad oes unrhyw bwyllgor (ar wahân i’r Pwyllgor Busnes) wedi ei sefydlu eto, nid yw’n bosibl i bwyllgor ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn.  Pan gaiff memoranda eu cyfeirio at bwyllgorau, mae’n debygol y rhoddir cyngor cyfreithiol tebyg i’r hyn a geir yn y ddogfen hon i’r pwyllgorau hynny, ac efallai caiff ei gynnwys yn adroddiadau’r pwyllgorau.  Yn absenoldeb ystyriaeth o’r fath gan bwyllgor, mae’r cyngor hwn yn cael ei ddarparu’n uniongyrchol i bob Aelod cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn.

 

Y Bil Ynni

4.         Cafodd y Bil Ynni ei Ddarlleniad Cyntaf ffurfiol yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 8 Rhagfyr 2010, ac y mae wedi cwblhau ei daith drwy Dŷ’r Arglwyddi ers hynny.  Mae’n awr wedi cyrraedd y Cyfnod Pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin a disgwylir i’r cyfnod hwnnw ddod i ben erbyn 21 Mehefin 2011.

5.       Mae’r Bil yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni, diogelwch cyflenwad ynni, cynhyrchu ynni carbon isel a’r Awdurdod Glo.  Mae’r Nodiadau Esboniadol ar y Bil yn cynnwys y dadansoddiad canlynol o weithrediad tiriogaethol y Bil –

“GWEITHREDIAD A CHWMPAS TIRIOGAETHOL

7. Mae cwmpas y Bil hwn yn estyn i Gymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel y disgrifir isod.

8. Bydd holl ddarpariaethau’r Bil yn weithredol yng Nghymru, heblaw pan fônt yn ymdrin â’r Alban ar wahân i Gymru a Lloegr (mae’r ddarpariaeth sy’n ymdrin â’r Alban ar wahân yn ymwneud â’r Fargen Werdd, y Sector Rhentu Preifat, cofrestr tystysgrifau perfformiad ynni, a phwerau’r Awdurdod Glo). Mae’r holl faterion y mae’r Bil yn ymdrin â hwy yn faterion a gadwyd yn ôl o ran Cymru.

9. Cwmpas y darpariaethau ynglŷn â’r ysgafell gyfandirol a’r rhaglenni datgomisiynu wedi’u hariannu gan ynni niwclear yn unig sy’n estyn i Ogledd Iwerddon. Mae’r ddau fater hwnnw yn faterion a gadwyd yn ôl o ran Gogledd Iwerddon.

10. Mae cwmpas y Bil yn estyn i’r Alban, heblaw pan fo’n diwygio deddfwriaeth nad ydyw ei gwmpas ei hun yn estyn i’r Alban (gweler er enghraifft cymal 102 sy’n cynnwys darpariaethau ar ddatgomisiynu safleoedd niwclear), neu pan fo’n ymdrin â Chymru a Lloegr ar wahân i’r Alban, fel sydd wedi’i grybwyll ym mharagraff 8.

11. Mae Rhannau 2 a 3 yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl yn yr Alban. Yn Rhan 1, gall agweddau ar y Fargen Werdd (Pennod 1), Y Sector Rhentu Preifat (Pennod 2) a Rhwymedigaethau’r Cwmnïau Ynni (Pennod 4) berthyn i faterion datganoledig, fel y gall cymal 73 ym Mhennod 5 (mynediad at gofrestr tystysgrifau perfformiad ynni: yr Alban) a’r darpariaethau ynglŷn â swyddogaethau’r Awdurdod Glo yn Rhan 4. Mae diddymiad y Ddeddf Arbed Ynni yn y Cartref (Rhan 5) wedi’i ddatganoli i’r Alban.

12. Gofynnwyd am gydsyniad Senedd yr Alban o ran y darpariaethau yn y Bil sy’n sbarduno Confensiwn Sewel. Mae Confensiwn Sewel yn dynodi na fydd San Steffan fel arfer yn deddfu o ran materion a ddatganolwyd i’r Alban heb ganiatâd Senedd yr Alban. Os oes gwelliannau yn ymwneud â materion o’r fath sy’n sbarduno’r Confensiwn, bydd yn rhaid gofyn am gydsyniad Senedd yr Alban.”

6.       Tra bod paragraffau 11 a 12 yn y Nodiadau Esboniadol ar y Bil yn esbonio sut y gweithredir Confensiwn Sewel yng nghyd-destun y Bil Ynni, mae paragraff 8 yn gorffen gyda’r datganiad bod “pob mater y mae’r Bil yn ymdrin ag ef yn faterion a gadwyd yn ôl o ran Cymru.”  Er hynny, pasiodd y Cynulliad Cenedlaethol Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar 25 Ionawr 2011 ar faterion a oedd wedi’u cynnwys yn y Bil bryd hynny a oedd yn berthnasol i Gymru ac yr oedd yn eu hystyried i fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad –

“I gynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau sy'n ymwneud â'r Awdurdod Glo yn Rhan 4 o'r Mesur Ynni, fel y'i cyflwynwyd i Dŷ'r Arglwyddi ar 8 Rhagfyr 2010, i'r graddau y mae'r darpariaethau'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”

7.       Mae hon yn enghraifft ddiddorol o’r modd y gall Llywodraethau’r DU a Chymru fynegi barn wahanol o ran yr angen ar gyfer Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cynulliad Cenedlaethol.  Bydd materion o’r fath yn fwy pwysig pan na fydd CCD yn cael ei basio gan y Cynulliad.

8.       O ganlyniad i’r Refferendwm, mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ennill cymhwysedd llawer ehangach ond ni adlewyrchir hynny yn y Nodiadau Esboniadol presennol i’r Bil (y nodiadau sydd â dyddiad 17 Mawrth arnynt).  Mae Llywodraeth y DU wedi gosod nifer o welliannau i’r Bil, gan gynnwys y rheini y cyfeirir atynt yn y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.  Gan hynny, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig CCD arall ar ddwy agwedd ar y Bil—cefnu ar isadeiledd a drawsnewidiwyd ar gyfer dal a storio carbon, a phwerau prynu gorfodol ar gyfer newid y defnydd a wneir o biblinellau presennol.

Cefnu ar isadeiledd a drawsnewidiwyd ar gyfer dal a storio carbon

9.       Mae Llywodraeth y DU yn gweld dal a storio carbon fel technoleg liniaru angenrheidiol er mwyn mynd i’r afael â newid byd-eang yn yr hinsawdd a sicrhau cyflenwad diogel o ynni.  Mae technoleg dal a storio carbon yn casglu carbon deuocsid o orsafoedd pŵer sy’n defnyddio tanwydd ffosil.  Cludir y CO wedi hynny drwy biblinellau ac fe’i storir yn ddiogel mewn strwythurau sy’n bell o dan y môr megis cronfeydd olew a nwy a ddefnyddiwyd eisoes a dyfrhaenau halwynog dwfn. 

10.     Mae hyd at £1biliwn o gyllid cyfalaf wedi ei ddarparu ar gyfer y prosiect cyntaf i arddangos dal a storio carbon. Dyma’r cyfraniad mwyaf o gyllid cyhoeddus i brosiect unigol ar ddal a storio carbon yn y byd.  Yn Nhachwedd 2010, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod y broses ddethol ar gyfer y tri phrosiect arddangos ychwanegol yn agored i brosiectau ar orsafoedd pŵer nwy yn ogystal â phrosiectau ar orsafoedd pŵer glo. Er bod ymrwymiad i dri phrosiect arddangos arall, nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto ar y mecanwaith cyllido.

11.     Esbonnir y gwelliant cyntaf sy’n destun i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ym mharagraffau 15 ac 16 y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol.  Er taw i Ddeddf Ynni 2008 y mae’r gwelliant testunol, mae’r gwelliant yn ymwneud â Rhan IV o Ddeddf Petrolewm 1998 sy’n ymwneud â Chefnu ar Sefydliadau Alltraeth.  Rhoddwyd y pwerau perthnasol o dan Ran IV i’r Ysgrifennydd Gwladol, ond nid yw’n gallu arfer nifer ohonynt yng Nghymru heb ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

12.     Mae Llywodraeth Cymru yn esbonio ym mharagraff 17 y memorandwm fod y gwelliant yn ymwneud â diogelu’r amgylchedd a/neu reoli casglu neu waredu gwastraff. Mae’r ddwy agwedd honno ym Maes 6 (Amgylchedd) yng nghymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Gallai’r memorandwm hefyd fod wedi cyfeirio at gymhwysedd y Cynulliad o ran gwarchod cynefinoedd naturiol a’r amgylchedd arfordirol a morol (gan gynnwys gwely’r môr) sydd hefyd ym Maes 6.

Pwerau prynu gorfodol ar gyfer newid y defnydd a wneir o biblinellau presennol

13.     Mae Adran 12 Deddf Piblinellau 1962 yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol i wneud gorchymyn prynu gorfodol i adeiladu piblinellau.  Byddai’r gwelliant presennol yn estyn y pŵer drwy ychwanegu adran 12A newydd i’r Ddeddf honno o ran piblinellau i gludo carbon deuocsid a gwaith perthynol.  Nid oes unrhyw un o’r pwerau perthnasol wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.

14.     Mae Llywodraeth Cymru yn esbonio eto (ym mharagraff 19 y Memorandwm) bod y gwelliant yn ymwneud â diogelu’r amgylchedd a/neu reoli casglu neu waredu gwastraff. Mae’r ddwy agwedd honno ym Maes 6 (Amgylchedd) yng nghymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. 

 

Casgliad

15.     Nid yw’n glir a yw Llywodraeth y DU yn cytuno bod angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol o ran y gwelliannau hyn.  Serch hynny, mae’r memorandwm yn adlewyrchu effaith y Cynnig yn gywir.

 

Y Gwasanaeth Cyfreithiol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mehefin 2011